Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag
Cofnodion y Cyfarfod
24/2/2015
Yn bresennol:
Aled Roberts (Cadeirydd); Jackie Radford (Ysgrifennydd); Jeff Cuthbert AC; Dr Geraint Preest; Dr Jill Swift; Lindsey Morgan; Dr. Dai Lloyd; Norma McGough; Lisa Bainbridge; Tristan Humphreys; Jean Dowding; Graham Phillips.
Ymddiheuriadau:
Carol Carpenter; Henry Wilkins; Kath Hyde; Bill Hyde; Heather Stephen; Mike Hedges AC; Rhun ap Iorwerth AC.
· Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4/11/14 (cynigiwyd gan Lindsey ac eiliwyd gan Jean).
Materion yn codi
· Bydd JC yn holi’r Co-operative Group, fel y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf.
· Cytunwyd ar holl feysydd cyfrifoldeb Aelodau’r Cynulliad.
· Cytunwyd ar gynnwys y llythyr at bob Bwrdd Iechyd Lleol, ac anfonir ef gan Aled Roberts, fel Cadeirydd y Grŵp.
· Dylid cyfeirio’r llythyr at y Pennaeth Deieteg ym mhob BILl, gyda chopi at bob Prif Weithredwr.
· Mae LB a Coeliac UK bellach mewn cysylltiad â thîm y Bil Iechyd y Cyhoedd, a byddant yn cyfrannu at ymgynghoriadau ar reoliadau deiet therapiwtig yn y dyfodol.
· Gallai’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) newydd gynnwys cyfeiriad at hyfforddiant ar gyfer darparu bwydydd heb glwten, a chytunwyd y dylai’r Bil gael ei wirio i weld beth sydd wedi’i gynnwys ynddo. Mae’r linc i wefan y Bil yma: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12110
· Mae’r pecynnau ar gyfer ysgolion yn barod, ac yn aros i gael eu cyfieithu.
Papur Trafod y Llwybr:
· Cyflwynwyd y papur gan LB.
· Cytunwyd y byddai LB a JR yn drafftio llythyr at y Gweinidog Iechyd, yn gofyn sut y mae Byrddau Iechyd Lleol yn defnyddio’r arian a fwriadwyd ar gyfer rhagnodi, ac yn holi a ellir ystyried gwelliannau yng ngoleuni canlyniadau’r Gwasanaeth Bwyd Heb Glwten yn yr Alban. Yna caiff y llythyr ei anfon ar ran y Grŵp a’i lofnodi gan y Cadeirydd.
Papur Informatica:
· Cyflwynwyd y papur gan GP.
· Cytunwyd y dylem yn awr weithio tuag at gael tanio’r system a’i rhoi ar waith ym mhob meddygfa meddyg teulu; bydd GP a DL yn ymchwilio i hyn ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod ar 12 Mai.
· Mae angen cynnal trafodaethau ynglŷn â gallu gofal eilaidd, er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon ynghylch cynnydd yn yr atgyfeiriadau o ganlyniad i roi’r offeryn archwilio ar waith.
Ymgyrchoedd:
· Bydd ymgyrch hysbysebu ar radio digidol a radio rhanbarthol yn yr haf i dynnu sylw at ddiagnosis; bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar dynnu sylw at symptomau’r clefyd seliag.
· Mae Coeliac UK wedi sicrhau cefnogaeth person enwog i gymeradwyo a hyrwyddo’r ymgyrch.
· Caiff yr asesiad ar-lein a gwybodaeth am ble y dylai pobl fynd, ei hyrwyddo.
· Caiff yr ymgyrch ei lansio yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Seliag, sy’n dechrau ddydd Llun, 11 Mai 2015.
· Awgrymwyd y gellid cynnal digwyddiad amser cinio yn y Cynulliad ar 12 Mai, i gyd-fynd â chyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol, a gynhelir ar y diwrnod hwnnw.
· Mae’r ymgyrch Gwarant Dim Glwten yn parhau i wneud yn dda: Dylai Waitrose a Tesco gydymffurfio â gofynion yr ymgyrch erbyn diwedd yr haf; roedd cynnydd yn digwydd gyda nifer o fanwerthwyr mawr eraill yn y DU hefyd.
· Byddai cyfarfod gyda Morrisons yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos ganlynol.
Daeth y cyfarfod i ben am 7.20pm
Y cyfarfod nesaf: 12 Mai 2015, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 6pm
CRYNODEB O’R CAMAU I’W CYMRYD:
AR / JR: Llythyr gan y Cadeirydd at bob Bwrdd Iechyd Lleol.
AR / JR: Gwirio’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) o ran materion sy’n effeithio ar y clefyd seliag a darpariaeth heb glwten.
LB / JR: Llythyr drafft at y Gweinidog ynghylch gwariant ar ragnodi.
GP / DL: Ceisio rhoi’r system Informatica ar waith ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod ar 12 Mai.